Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cefnogi Diwrnod Plant Byd-eang

20fed o Dachwedd 2021

Cefnogi Diwrnod Plant Byd-eang 2021

Dydd Sadwrn 20fed Tachwedd yw Diwrnod Plant Byd Eang. Diwrnod Plant Byd Eang yw pen-blwydd y dyddiad ym 1989 pan fabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae hyn yn golygu bod gan bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed hawliau sy'n eu cefnogi yn eu bywydau bob dydd.

Eleni ac yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod Plant Byd Eang, bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn rhannu gwybodaeth a chlip fideo dyddiol ar ei’n gyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o Hawliau Plant a hefyd, i hyrwyddo gwaith gwasanaethau ieuenctid lleol sy'n cefnogi pobl ifanc yng Ngheredigion.

Cadwch lygad am y neges ddyddiol hon @GICeredigionYS a darganfod mwy am eich hawliau trwy ymweld â gwefan Comisiynydd Plant Cymru:

https://www.complantcymru.org.uk/ccuhp-hawliau-plant/

Am wybodaeth bellach ynglŷn â Diwrnod Plant Byd-eang, ewch i:

https://www.un.org/en/observances/world-childrens-day

15/11/2021