Gwaith Ieuenctidmewn Ysgolion



Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion Uwchradd
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn darparu Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion trwy weithiwr ieuenctid penodedig ym mhob ysgol uwchradd ledled y sir. Mae ein gweithwyr ieuenctid yn cynnig presenoldeb dibynadwy a chefnogol o fewn amgylchedd yr ysgol, gan weithio gyda phobl ifanc i feithrin hyder, gwydnwch a pherthnasoedd cadarnhaol.
Cefnogaeth wedi’i thargedu a Gweithgareddau Cyfoethogi
Rydym yn darparu cefnogaeth un-i-un a fesul grŵp ar gyfer amrywiaeth o faterion gan gynnwys lles, rheoli dicter, bwlio a gorbryder. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn cynnal clybiau amser cinio ac ar ôl ysgol sy’n rhoi mannau diogel i bobl ifanc gymdeithasu, datblygu sgiliau a chymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol, gan helpu i gefnogi lles emosiynol a gwella eu profiad cyffredinol yn yr ysgol.

