Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn lansio ymgysylltiad i lunio strategaeth newydd

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gwahodd pobl ifanc, partneriaid a chymunedau i gyfrannu at lunio dyfodol gwaith ieuenctid ar draws y sir.

06/01/2026

Fel rhan o ofyniad statudol Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol gynhyrchu strategaeth gwaith ieuenctid pum mlynedd (2027–2032), mae’r Gwasanaeth yn lansio cynllun ymgysylltu ac ymgynghori i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc wrth galon y broses.

Dywedodd Gethin Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yng Ngheredigion. Rydym am i bobl ifanc a phartneriaid ddweud wrthym beth sy’n bwysig iddyn nhw fel bod ein strategaeth yn adlewyrchu anghenion ac uchelgeisiau go iawn.”

Bydd y strategaeth newydd yn nodi gweledigaeth a blaenoriaethau’r sir ar gyfer gwaith ieuenctid, gan sicrhau darpariaeth gynhwysol, dwyieithog ac hygyrch, a chydweithio â phartneriaid i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol pobl ifanc.

Ychwanegodd Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Gydol Oes a Llesiant: “Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi lles, addysg a chyfleoedd bywyd pobl ifanc. Trwy weithio ar y cyd â chymunedau a phartneriaid, gallwn sicrhau bod gwasanaethau ieuenctid Ceredigion yn parhau’n gryf ac yn canolbwyntio ar helpu pob person ifanc i gyrraedd ei botensial.”

Sut i gymryd rhan

Bydd yr ymgysylltu’n dechrau yn Ionawr 2026 gyda gweithgareddau ar draws Ceredigion, gan gynnwys:

Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn ynghylch yr Ymgysylltiad yma: Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid 2027-2032 – Cyngor Sir Ceredigion

Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall beth sy’n bwysig i bobl ifanc, rhwystrau mynediad, cyfleoedd i gyd-ddylunio blaenoriaethau a datblygu syniadau ar gyfer gweithgareddau a chefnogaeth newydd.

Bydd y broses ymgysylltu’n rhedeg tan Mawrth 2026. Caiff strategaeth ddrafft ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ym Medi 2026, gyda’r cynllun terfynol yn cael ei lansio yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid ym Mehefin 2026.

Cymerwch ran yn yr arolwg: Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion | Cyngor Sir Ceredigion

E-bostiwch: ieuenctid@ceredigion.gov.uk

Dilynwch y Gwasnaeth Ieuenctid ar Instagram a Facebook. @ceredigionifanc


Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn sgwrsio gydag Elin Jones AS

Ar 15 Rhagfyr 2025, ymwelodd aelodau o Gyngor Ieuenctid Ceredigion â Senedd Cymru yng Nghaerdydd, a chyfarfod ag Elin Jones AS i drafod materion allweddol sy’n bwysig i bobl ifanc.

29/12/2025

Fel rhan o raglen waith flynyddol Cyngor Ieuenctid Ceredigion, cafodd pobl ifanc daith addysgol o amgylch y Senedd, a chyfle i eistedd i lawr gyda’r Llywydd i gyflwyno cyfres o gwestiynau yn canolbwyntio ar amrywiaeth o faterion lleol gan gynnwys trafnidiaeth, addysg, a gwleidyddiaeth.

Nod Cyngor Ieuenctid Ceredigion yw meithrin a chynnal cysylltiadau rhwng pobl ifanc a Senedd Cymru a Senedd y DU drwy Aelodau Seneddol Ceredigion, er mwyn sicrhau bod llais pobl ifanc Ceredigion yn cael ei gynrychioli ar faterion sy’n effeithio arnynt.

Dywedodd Gwilym Morus, Aelod newydd Senedd Ieuenctid y DU dros Geredigion a disgybl Ysgol Gyfun Penweddig: “Roedd yn gyfle gwych i gyflwyno a thrafod meysydd blaenoriaeth allweddol gydag Elin Jones yn y Senedd yn ddiweddar. Trafodwyd sawl pwnc sy’n agos at ein calonnau, fel trafnidiaeth cyhoeddus, a diddorol iawn oedd cael y cyfle i ddysgu mwy am waith Senedd Cymru a’r hyn sy’n mynd ymlaen yn y Senedd. Mae’n hollbwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i rannu eu barn, ac roedd hwn yn gyfle perffaith i wneud hynny. Hoffwn ddiolch i’r Llywydd ar rhan Cyngor Ieuenctid Ceredigion am drafodaeth ddiddorol a chadarnhaol ac am roi o’i hamser i siarad â ni. Fe wnaethon ni i gyd fwynhau’r profiad.”

Dywedodd Elin Jones AS: “Roedd yn bleser cael croesawu Cyngor Ieunectid Ceredigion i’r Senedd am daith a sgwrs unwaith eto eleni. Mae wastad yn braf cael cwrdd â phobl ifanc sydd a diddordeb mewn gwleidyddiaeth a’r byd o’u cwmpas. Roedd y drafodaeth yn eang ac aeddfed – o faterion trafnidiaeth i addysg, i’r iaith Gymraeg a chyllidebau.”

 

Dilynwch y Gwasnaeth Ieuenctid ar Instagram a Facebook. @ceredigionifanc


Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Dosbarthu Pecynnau Lles i Gefnogi Pobl Ifanc dros y Nadolig

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi paratoi 108 o Becynnau Llesiant i ddod â chysur a llawenydd i blant a phobl ifanc sy'n cael cymorth yn y sir ar hyn o bryd.

23/12/2025

Y Nadolig hwn, bydd pobl ifanc ledled Ceredigion yn derbyn amrywiaeth o adnoddau sydd wedi’u hanelu at gefnogi iechyd meddwl cadarnhaol, llesiant ac anghenion niwroamrywiol yn ystod tymor yr ŵyl. Mae’r fenter yn cydnabod, er y gall y Nadolig fod yn gyfnod o lawenydd, y gall hefyd ddod â heriau i lawer o bobl ifanc. Mae meddwl y tu ôl i greu’r pecynnau hyn ac maent yn darparu offer ymarferol, eitemau synhwyraidd ac adnoddau calonogol i helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu cynnwys a’u gofalu amdanynt.

Beth sydd wedi’u cynnwys yn y Pecynnau Llesiant?

  • Gweithgareddau ystyriol i annog tawelwch a ffocws
  • Eitemau sy’n gyfeillgar i’r synhwyrau ac wedi’u teilwra ar gyfer pobl ifanc niwroamrywiol
  • Cefnogaeth i hyrwyddo hunanfynegiant

Trwy gyfuno hwyl, adloniant a chefnogaeth emosiynol, nod y pecynnau yw grymuso pobl ifanc i reoli straen, dathlu eu hunigoliaeth, a chroesawu tymor y gwyliau gyda hyder. Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnwys timau amlddisgyblaethol, gyda’r nod cyffredinol o ddarparu dulliau, dan arweiniad plant a phobl ifanc, i alluogi plant a phobl ifanc i gael eu grymuso, i gyflawni, i ddatblygu’n bersonol, yn emosiynol, yn gymdeithasol a bod y gorau y gallant fod.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Ceredigionar gyfer Gydol Oes a Llesiant: “Er bod y Nadolig yn amser bendigedig i’r mwyafrif o bobl, gall fod yn her i bobl ifanc sydd â phryderon iechyd meddwl neu lesiant. Dylid canmol Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion am gydnabod hyn ac am gymryd yr amser i ddarparu adnoddau i helpu. Mae cynnwys y pecynnau wedi’u hanelu at y plant a’r bobl ifanc hynny sy’n derbyn cymorth yn y sir oherwydd ein bod am i bob un ohonynt gael amser pleserus. Dylem hefyd gydnabod y grantiau ariannol a’r cydweithio rhwng partneriaid sydd wedi cyfrannu at y fenter.”

Esboniodd Gwenllian Morris, Rheolwr Tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Ataliadau sydd wedi bod yn rhan o drefnu’r pecynnau: “Rydym am sicrhau bod pob person ifanc yng Ngheredigion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u grymuso yn ystod tymor y Nadolig. Rydym wedi gwrando’n ofalus ar bobl ifanc, sy’n defnyddio ein cefnogaeth mewn ysgolion a chymunedau yn ystod yr wythnosau diwethaf, i ddysgu mwy am eu hanghenion a deall yr heriau y gallent fod yn eu hwynebu. Mae’r Pecynnau Llesiant hyn yn adnodd i gefnogi eu hiechyd meddwl a’u hatgoffa nad ydynt ar eu pennau eu hunain a bod cefnogaeth arall ar gael pe bai ei angen arnynt”.

Cymerwch ran yn yr arolwg a darganfyddwch fwy yn: Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion – Cyngor Sir Ceredigion

Neu e-bostiwch: ieuenctid@ceredigion.gov.uk

Dilynwch y Gwasnaeth Ieuenctid ar Instagram a Facebook. @ceredigionifanc


Grantiau Gwaith Ieuenctid i roi hwb ariannol i flaenoriaethau pobl ifanc

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi cyhoeddi dyraniad o £50,000 mewn Grantiau Gwaith Ieuenctid i sefydliadau ieuenctid gwirfoddol ledled y sir, gan gefnogi prosiectau sy’n adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodwyd gan bobl ifanc eu hunain.

28/11/2025

Mae Fframwaith Grantiau Gwaith Ieuenctid Ceredigion 2025, a gyflwynir ar y cyd â phobl ifanc, yn grymuso pobl ifanc drwy ariannu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig iddynt fwyaf – yn amrywio o iechyd meddwl a llesiant i hyrwyddo’r Gymraeg a mannau diogel.

Dywedodd Gethin Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â gwrando ar bobl ifanc ac ymateb i’r hyn sy’n bwysig iddynt. Trwy bleidlais Rhoi Dy Farn a fforymau ieuenctid, maen nhw wedi dweud wrthym beth yw eu blaenoriaethau ac, drwy weithio mewn partneriaeth, gallwn ddefnyddio grantiau i helpu sefydliadau gwirfoddol i gyflwyno prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau.”

Ychwanegodd Leon Johnson, aelod o’r Grŵp Inspire a fu’n rhan o’r broses o ystyried y ceisiadau yn ystod gweithdy ymgynghoriad: “Fe wnes i fwynhau clywed am yr holl gyfleoedd gwahanol roedd y sefydliadau yn eu cynnig ac i fod yn rhan o’r broses o benderfynu arb a ddarpariaethau fyddai’n cael eu dewis I fod o fudd I bobl ifanc a chymunedau.”

Bydd y grantiau’n cefnogi chwe sefydliad, gan gynnwys Area 43 (Depot), a fydd yn ymestyn oriau agor ei ganolfan dan arweiniad pobl ifanc yng Ngheredigion i ddarparu sesiynau llesiant a chreadigol ar benwythnosau, ac Urdd Gobaith Cymru, a fydd yn ehangu darpariaeth ieuenctid gynhwysol drwy’r Gymraeg. Bydd prosiectau eraill a ariennir yn cynnwys clybiau ieuenctid gwledig trwy CFfI Ceredigion Young Farmers, sesiynau celf greadigol gan Celf Aeron Arts, gwaith allgymorth ar berthnasoedd iach gan Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru, a gweithgareddau ieuenctid cynhwysol dan arweiniad Plwyf Aberystwyth.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Oedran a Llesiant: “Mae’n ysbrydoledig gweld pobl ifanc yn siapio dyfodol gwaith ieuenctid yng Ngheredigion. Mae’r mentrau hyn yn adlewyrchu eu lleisiau a’u blaenoriaethau, gan sicrhau bod gwasanaethau’n gynhwysol, yn hygyrch ac yn effeithiol. Mae hyn yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth i gryfhau cyfleoedd i bob person ifanc sy’n byw yng Ngheredigion.”

Bydd y prosiectau a ariennir yn mynd i’r afael â themâu allweddol a nodwyd gan bobl ifanc, gan gynnwys:

  • Iechyd meddwl a llesiant emosiynol
  • Mannau diogel a gwaith atal trais
  • Yr iaith Gymraeg a chynhwysiant diwylliannol
  • Cymorth costau byw a sgiliau bywyd
  • Diogelwch digidol a gwytnwch ar-lein

Mae’r rhestr lawn o ddyraniadau a manylion prosiectau ar gael yma: www.www.giceredigionys.co.uk/hafan/

Dilynwch y Gwasnaeth Ieuenctid ar Instagram a Facebook. @ceredigionifanc


Adroddiad Bywyd Ar-lein yn Amlygu Bywydau Digidol Pobl Ifanc ar draws Dyfed-Powys

Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yn taflu goleuni ar sut mae bywyd ar-lein yn siapio profiadau, llesiant ac ymddygiad pobl ifanc ar draws Dyfed-Powys.

12/11/2025

Cyflwynwyd yr adroddiad ‘Bywyd Ar-lein – Llais Pobl Ifanc’ gan ProMo Cymru a’r Lab Arweinyddiaeth Gwaith Ieuenctid. Mae’n cynnwys barn cannoedd o bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ieuenctid, gan archwilio dylanwad llwyfannau digidol fel TikTok ar hunaniaeth, perthnasoedd ac iechyd meddwl.

Dywedodd Arielle Tye, Pennaeth Digidol ProMo Cymru: “Mae’n wych gweld Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn dyfnhau ei ddealltwriaeth o fywydau ar-lein pobl ifanc ac yn defnyddio eu lleisiau i lunio gwasanaethau’r dyfodol. Os ydym am i waith ieuenctid aros yn berthnasol ac yn effeithiol, mae’n rhaid i ni fod yn weithgar mewn gofodau digidol ac yn dylunio cefnogaeth lle mae pobl ifanc yn bodoli.”

Mae’r adroddiad yn dangos bod llawer o bobl ifanc yn cael profiadau cadarnhaol ar-lein, megis dysgu sgiliau newydd a chysylltu ag eraill, ond bod nifer sylweddol hefyd yn wynebu heriau fel bwlio, cynnwys niweidiol, a negeseuon diangen.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Gydol Oes a Llesiant: “Mae’n galonogol gweld cymaint o bobl ifanc yn disgrifio eu hamser ar-lein yn greadigol, hwyliog ac yn fuddiol. Mae’r adroddiad hwn yn ein hatgoffa mai’r rhyngrwyd yw lle maen nhw’n medru cysylltu, dysgu a thyfu. Dyma’r agweddau cadarnhaol y dylem adeiladu arnynt. Ar yr un pryd, ni allwn anwybyddu’r niwed hynod o wirioneddol y mae rhai yn ei brofi. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi dealltwriaeth gytbwys i ni, ac yn cynnig gorchymyn clir i ddylunio gwasanaethau sy’n cryfhau’r pethau da a hefyd delio â’r risgiau.”

Mynegodd gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc bryderon ynghylch effaith bywyd ar-lein ar ymddygiad a llesiant, gan amlygu’r angen am well dealltwriaeth o lwyfannau digidol a thueddiadau.

Comisiynwyd y prosiect fel rhan o Bartneriaeth Trais Difrifol a Throseddu Trefnedig Dyfed-Powys, o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol. Bydd y canfyddiadau’n llywio dyluniad gwasanaethau’r dyfodol a gwaith ymyrraeth gynnar dan arweiniad Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion.

Dywedodd Gethin Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Mae’r adroddiad Bywyd Ar-lein yn rhoi darlun clir i ni o sut mae pobl ifanc yn profi’r byd digidol yn ein rhanbarth – y da a’r heriau. Rydym yn ddiolchgar iawn i Swyddfa Comisiynydd Troseddau’r Heddlu am ariannu’r gwaith pwysig yma. Rydym bellach yn adeiladu arno drwy ddull cyfannol dan arweiniad gwaith ieuenctid o ran atal. Rydym yn awyddus i barhau â’r gwaith hwn i gryfhau llythrennedd cyfryngau, darparu mentora i ymarferwyr ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel, ac i sefydlu grŵp cynghori dan arweiniad pobl ifanc i helpu siapio mentrau llesiant digidol yn y dyfodol.”

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma: Bywyd Ar-lein – Lleisiau Pobl Ifanc – ProMo Cymru

Dilynwch y Gwasnaeth Ieuenctid ar Instagram a Facebook. @ceredigionifanc


Bwrsari Ieuenctid Ceredigion 2025 wedi’i wobrwyo

Mae person ifanc o Geredigion wedi elwa o fwrsariaeth a ddarparwyd unwaith eto eleni gan West Wales Holiday Cottages. Derbyniodd Ffion Marston, 20 oed y fwrsariaeth i’w chefnogi i gyrraedd eu nod personol i ddatblygu busnes harddwch symudol newydd.

25/09/2025

Mae Bwrsari Ieuenctid Ceredigion yn ei wythfed flwyddyn, gyda busnes lleol West Wales Holiday Cottages yn cynnig £1,500 i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i’w helpu gyda’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Ers sefydlu, mae 19 person ifanc wedi derbyn cefnogaeth gan Fwrsariaeth Ieuenctid Ceredigion. Derbyniwyd cyfanswm o 36 o geisiadau eleni, yn amrywio o fentrau cymdeithasol i syniadau am brosiectau, digwyddiadau cymunedol a cheisiadau am hyfforddiant.

Dewiswyd y cais llwyddiannus yn ofalus gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion (Panel Dewis) dros wyliau’r haf. Trwy ddefnyddio matrics sgorio, penderfynwyd dyfarnu’r fwrsariaeth i un ymgeisydd llwyddiannus, am eu syniad arloesol a’r effaith bosibl ar ei bywyd a chymunedau yng Ngheredigion.

Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc: “Rydym yn ddiolchgar iawn i West Wales Holiday Cottages am roi’r cyfle hwn i ni unwaith eto eleni. Fel ni, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod gwerth buddsoddi yn ein pobl ifanc, er mwyn eu cefnogi i gyrraedd eu potensial. Mae’n gyfle gwych i gydweithio â busnes lleol. Roedd yn wych gweld ansawdd a nifer y ceisiadau a dderbyniwyd. Mae’r cyfle hwn hefyd yn brofiad da i aelodau ein Fforwm Ieuenctid a wnaeth yn dda iawn wrth wneud rhai penderfyniadau anodd.”

Gwahoddwyd yr enillydd i gyfarfod cyflwyno yn swyddfa West Wales Holiday Cottages, Aberporth ar 16 Medi 2025 er mwyn cyflwyno siec a dathlu ei llwyddiant.

Dywedodd Lisa Stopher, Cyfarwyddwr West Wales Holiday Cottages: “Mae’n fraint i West Wales Holiday Cottages noddi Bwrsariaeth Ieuenctid Ceredigion. Rydym yn falch iawn o ddathlu talent, ymroddiad a gwaith caled y bobl ifanc yn ein cymuned a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu breuddwydion. Mae enillwyr y Fwrsariaeth yn cynrychioli’r gorau o ddyfodol Ceredigion, ac mae eu hangerdd, eu gwytnwch a’u hymrwymiad gwir yn ysbrydoledig.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau i’r holl bobl ifanc a gyflwynodd ceisiadau cryf ar gyfer y fwrsariaeth hon. Roedd hi’n bleser gweld dyheadau a mentergarwch cyffrous y bobl ifanc ac rwy’n falch iawn eu bod yn cael cydnabod gyda’r fwrsariaeth arbennig hon. Pob lwc i Ffion yn y dyfodol.”

Bydd rhagor o wybodaeth am y fwrsariaeth flwyddyn nesaf ar gael yn 2026.

 

Dilynwch y Gwasnaeth Ieuenctid ar Instagram a Facebook. @ceredigionifanc


Pobl Ifanc a Chwmni Theatr Arad Goch yn lansio ffilm fer bwerus i godi ymwybyddiaeth o alar a phrofedigaeth

Pobl Ifanc a Chwmni Theatr Arad Goch yn lansio ffilm fer bwerus i godi ymwybyddiaeth o alar a phrofedigaeth.

12/09/2022

Eleni, dathlwyd Diwrnod Ymwybyddiaeth Galar Cenedlaethol ar 30 Awst 2025, ac fel cydnabyddiaeth briodol o alar a phrofedigaeth, ac i’r rhai sy’n profi colled, lansiwyd ffilm fer a grëwyd gan bobl ifanc yn swyddogol ar 29 Awst 2025 yn Arad Goch, Aberystwyth.

Amcangyfrifir bod 127 o blant a phobl ifanc yn colli rhiant bob dydd yn y DU, gyda 78% o blant 11-16 oed yn dweud eu bod wedi colli perthynas agos neu ffrind, yn ôl un arolwg a gynhaliwyd gan Elusen Galar Winston’s Wish.

Daeth y syniad i greu’r ffilm fer, sydd wedi bod mewn cynhyrchiad ers 12 mis, gan bobl ifanc o Grŵp Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth, a benderfynodd eu bod am gyd-gynhyrchu darn creadigol, a fyddai’n codi ymwybyddiaeth ac yn datblygu dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i wynebu galar a phrofedigaeth fel person ifanc, ac i dynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael yn lleol.

Yn wreiddiol, gwnaeth aelodau o Lysgenhadon Cymunedol Aberystwyth gais am Grant dan Arweiniad Ieuenctid, a ddyfarnwyd yn hael i ariannu’r prosiect gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO). Gyda hanes o waith partneriaeth rhagorol, cysylltwyd â Chwmni Theatr Arad Goch a chymerodd yr her o arwain y cynhyrchiad ieuenctid. Roedd cyfraniad gan yr elusen galar, Sandy Bear, yn hanfodol i’r prosiect, gyda Llysgenhadon Ieuenctid Sandy Bear yn garedig yn rhannu eu straeon a’u profiadau, gan lunio rhai o’r llinellau stori. Hefyd, yn ymddangos yn y ffilm mae profiadau bywyd go iawn person ifanc, Molly Grainger a sefydlodd flog ar-lein llwyddiannus i gefnogi eraill yn dilyn ei thaith ei hun o alar a cholled. Yn cymryd rhan flaenllaw fel actorion ifanc yn y ffilm, roedd disgyblion o adran ddrama Ysgol Gyfun Penweddig, gyda’r noson lansio hefyd yn cael ei chynnal gan ddau brif actor, Nel Dafis a Megan Griffiths. Bu pobl ifanc yn gweithio gydag Arad Goch, dan arweiniad y cyfarwyddwr ffilm, Carwyn Blayney, i greu stori a sgript, a ffilmio golygfeydd o gwmpas ardal Aberystwyth, cyn golygu’r lluniau a pharatoi llais, i greu ffilm fer, o’r enw ‘Tyfu gyda Galar’.

Dywedodd Tiffany Davies, Gweithiwraig Cymorth Ieuenctid Ceredigion: “Gweithiodd y bobl ifanc yn anhygoel o galed i gynhyrchu ffilm fer bwerus, o’r dechrau i’r diwedd. Roedd eu creadigaeth yn darlunio profiadau bywyd go iawn pobl ifanc sydd wedi wynebu colli anwylyd. Nod y ffilm yw dangos bod pawb yn profi galar yn wahanol, a bod cefnogaeth ar gael allan yna. Sefydliad partner, Sandy Bear yw un sefydliad lleol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc trwy gyfnodau anodd o golled. Mae’r prosiect wedi bod yn enghraifft ardderchog o gyd-gynhyrchu a gwaith partneriaeth, a dylai’r bobl ifanc dan sylw yn benodol, fod yn falch iawn o’u cyflawniad. Hoffem fynegi ein diolch i bawb a wnaeth hyn yn bosibl; Cwmni Theatr Arad Goch, Sandy Bear, Ysgol Gyfun Penweddig, CAVO a’r bobl ifanc.”

Ychwanegodd Ffion Wyn Bowen, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch: “Roedd cyd-weithio gyda’r Cyngor Sir ar brosiect oedd yn rhoi pobl ifanc yn nghalon y gwaith yn fraint aruthrol i ni fel cwmni. Pobl ifanc yn rhannu eu profiadau a’u syniadau, yn trafod, yn tyfu mewn hyder ac yn datblygu eu sgiliau er mwyn creu ‘Tyfu gyda Galar, ffilm fer fydd yn cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc wrth wynebu colled, galar a phrofedigaeth. Mae’r diolch yn arbennig hefyd i elusen Sandy Bear am eu cyfraniad arbenigol amhrisiadwy i’r cynllun, ac yn benodol i’w llysgenhadon ifanc am eu sylwadau a’u dewrder.”

Dywedodd Molly Grainger, Gwirfoddolwraig Prosiect: “Rwy’n teimlo’n hynod lwcus a diolchgar o fod wedi bod yn rhan o’r ffilm fer ‘Tyfu gyda Galar’. Roedd y broses gyfan mor ddeallus, ac mae’r darn terfynol wedi cael effaith ddofn. Rwy’n falch o wybod y bydd yn adnodd ystyrlon i bobl ifanc yng Ngheredigion a thu hwnt.”

Mae’r ffilm fer ar gael i’w gwylio ar Vimeo a’i bwriad yw ei defnyddio fel adnodd addysgol mewn ysgolion a lleoliadau eraill, i helpu rheini sy’n wynebu galar a phrofedigaeth.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd wedi colli eu bywydau yng Ngheredigion drwy’r wefan elusen galar: Sandy Bear 

Dilynwch y Gwasnaeth Ieuenctid ar Instagram a Facebook. @ceredigionifanc

Am ragor o wybodaeth am waith Cwmni Theatr Arad Goch, ewch i’w gwefan: Arad Goch