Amdanom ni


Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn ymrwymo i gefnogi pobl ifanc 11–16 oed i gyrraedd eu potensial.
Rydym yn darparu cyfleoedd datblygu personol, cymdeithasol ac addysgol trwy gefnogaeth arbenigol a darpariaeth mynediad agored, gan helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus a byw bywydau ystyrlon.
Mae ein gweledigaeth yn syml:
Creu gwasanaeth cadarn a chynhwysol sy’n grymuso pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn drwy fannau diogel, perthnasoedd dibynadwy, a chyfleoedd i ddysgu, cymryd rhan a mynegi eu hunain.
Ein dull ‘pum colofn’





Porth Cymorth Cynnar
Rydym yn rhan o Gyngor Sir Ceredigion a Phorth Cymorth Cynnar. Nod y Gwasanaeth yw cefnogi dinasyddion Ceredigion ym mhob cam o’u bywydau.
Mae Porth Cymorth Cynnar yn darparu cymorth, gwybodaeth, cyngor ac ymyrraeth gynnar, i bob oedran, a hynny mewn ffordd integredig, cyffredinol a phenodol.
Nod y Gwasanaeth yw gwella llesiant personol, cymdeithasol, addysgol, corfforol, meddyliol ac emosiynol unigolion drwy hyrwyddo gwydnwch, gallu ac annibyniaeth.










































