Rhaglen o weithgareddau llwyddiannus dros yr haf!

Darparwyd rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau dros bum wythnos yn ystod gwyliau’r haf gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Trefnwyd gweithdai, gweithgareddau, teithiau, digwyddiadau a phrosiectau a’u darparu i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ar draws y sir.

Eleni, roedd y gweithgareddau yn canolbwyntio ar bynciau megis cyflogadwyedd ac uwch-sgilio, iechyd a lles, cyfranogiad, integreiddio, chwaraeon a hamdden a'r amgylchedd. Cafodd pobl ifanc y cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a rhai sydd ganddynt eisoes megis hunan-barch, hyder, cyfathrebu a datrys problemau mewn amgylchedd anffurfiol, llawn hwyl. Cafwyd cyfle i gwrdd â phobl newydd, ennill achrediadau a rhoi cynnig ar weithgareddau cyffrous.

Dywedodd y Prif Swyddog Ieuenctid ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Gethin Jones, “Mae Rhaglen yr Haf wedi profi i fod yn llwyddiant mawr unwaith eto eleni. Rydym wedi gallu parhau i gynnig cyfleoedd targedol a mynediad agored i bobl ifanc yn ystod gwyliau’r haf, yn ogystal ag yn ystod tymor yr ysgol, fel ein bod yn rhoi cymorth ac yn ymgysylltu gyda’r bobl ifanc drwy gydol y flwyddyn. Cynigodd y rhaglen amrywiaeth o gyfleoedd gwych i bobl ifanc ar draws y sir i gymryd rhan. Nawr mae tymor yr Hydref wedi cychwyn, rydym yn croesawu’r bobl ifanc nôl i’n sesiynau tymor yr ysgol yn ein clybiau ieuenctid ar draws y sir. Rydym yn cynnig darpariaeth mynediad agored ar amrywiaeth o weithgareddau felly gwnewch yn siŵr o alw mewn i gael gweld beth sydd ar gael.”

Roedd Rhaglen yr Haf yn cynnwys diwrnodau gweithgareddau dŵr, rhaglen cyflogadwyedd ac uwch-sgilio, beicio mynydd, crochenwaith, creu pizza, diwrnod gweithgareddau natur, taith cyfnewid ryngwladol i’r Eidal ac ymweliad i Sw Caer.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, “Mae’n gadarnhaol i glywed bod digwyddiadau Rhaglen yr Haf yn llwyddianus ac o fudd i’n pobl ifanc dros y gwyliau. Mae’n gredyd i Geredigion am gael gwasanaeth ieuenctid o ansawdd sy’n gynhwysol i’r holl bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Gyda darpariaeth o weithgareddau amrywiol fel hyn, mae rhywbeth o ddiddordeb i bawb gyda Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion.”

03/09/2018