Pobl Ifanc yn creu murlun deniadol i Bromenâd Aberystwyth!

Ym mis Rhagfyr 2018, fe wnaeth Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a thîm Economi ac Adfywio’r Cyngor Sir alw ar bobl ifanc rhwng 8-25 oed i rhoi cymorth i adfywio’r ardal wrth ymyl Promenâd Aberystwyth, gan rannu eu dyluniadau creadigol. Mae’r ardal sy’n aml yn denu fandaliaeth, ar ail lawr y lloches bellach wedi’i ddisodli gan furlun mawr, lliwgar sy’n adlewyrchu treftadaeth Aberystwyth, a beth mae Aberystwyth yn golygu i bobl ifanc.

 

Roedd yr ymateb i'r gystadleuaeth ddylunio yn wych a derbyniodd y Gwasanaeth Ieuenctid lu o ddyluniadau creadigol.  Roedd yna banel o feirniaid wedi cwrdd i fynd trwy’r ceisiadau a dewiswyd pedwar enillydd. Roedd y panel wedi mwynhau elfennau o'r pedwar dyluniad, ac felly cafodd rhain eu cyfuno mewn i un dyluniad mawr gan yr artist graffiti proffesiynol, Lloyd y Graffiti.

 

Cafodd y dyluniadau buddigol eu creu gan; Daisy Anderson o Glwb Ieuenctid Penparcau, Gwenno Evans o Brifysgol Aberystwyth, Pheobe Hinks o Ysgol Penglais a Carys Owen o Ysgol Penweddig. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr sy’n rhoddedig ar y cyd gan Canolfan Celfyddydau Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion. Bydd y gwobrau yn cael eu cyflwyno iddynt mewn lansiad a fydd yn digwydd unwaith i’r prosiect gael ei gwblhau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Endaf Edwards, “Mae’n wych gweld yr ardal yma ger y Promenâd wedi’i adnewyddu, gyda murlun lliwgar a deniadol. Mae hefyd yn braf gwybod bod barn pobl ifanc wedi cael eu hystyried, a bod y dyluniad wedi’i greu gan ddefnyddio syniadau pobl ifanc. Gobeithiaf y bydd pobl lleol ac ymwelwyr yn mwynhau’r darn yma o waith.”

 

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes a Diwylliant, sydd a chyfrifoldeb am Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle gwych i bobl ifanc ddylanwadu ar ardal o fewn eu cymuned. Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio’n hynod o galed i eirioli ar ran pobl ifanc ac mae’r syniad o gasglu eu dyluniadau wedi bod yn bositif iawn. Bydd ail gam y prosiect yn gweld lefel isaf y lloches yn cael ei adnewyddu yn yr un modd. Rydym yn gobeithio y bydd holl drigolion Aberystwyth yn mwynhau'r gwaith celf hwn. "

 

 

15/02/2019