Pobl ifanc Ceredigion yn cymryd rhan yn ymgynghoriad ieuenctid mwyaf Ewrop!

 

Ar 08 Tachwedd 2019, bydd Thomas Kendall, Aelod Seneddol Ifanc (ASI) Ceredigion yn ymuno â dros 300 o ASI eraill i gymryd rhan yn dadl flynyddol Senedd Ifanc Prydain yn Siambr y Tŷ’r Cyffredin, Llundain, sy’n cael ei gadeirio gan Siaradwr Tŷ’r Cyffredin, Rt Hon John Bercow AS.

 

Bydd pobl ifanc ar draws Prydain yn trafod pum prif fater sy’n bwysig iddyn nhw. Cyn y ddadl fawr, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn arwain ymgyrch Gwneud eich Marc yng Ngheredigion.

Ymgyrch Gwneud eich Marc sy’n ynghlwm â Senedd Ieuenctid Prydain, yw arolwg barn pobl ifanc mwyaf ym Mhrydain. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn annog pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed i gymryd rhan yn yr ymgyrch i gyfrannu tuag at beth sy’n cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin gan Aelodau Seneddol Ifanc yn hwyrach yn y flwyddyn.

Mae’r bleidlais flynyddol Gwneud eich Marc, sydd wedi digwydd ers 2011, yn cynnwys 10 polisi sydd wedi’u dewis/hethol gan Aelodau o’r Senedd Ieuenctid, gan gynnwys Iechyd Meddwl, mynd i’r afael â Trosedd Cyllyll, Tlodi Plant, Pleidleisio’n 16 a Diogelu’r Amgylchedd. Disgwylir i ymgyrch eleni gyrraedd cannoedd o filoedd o bobl ifanc dros Brydain, sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Ieuenctid Prydain. Blwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth 1,109,788 o bobl ifanc o bob cwr o Brydain gymryd rhan yn yr ymgyrch.

 

Gyda chefnogaeth ASI Ceredigion, Thomas Kendall a’r Dirprwy ASI, Huw Jones, bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn casglu papurau pleidleisio o bob Ysgol Uwchradd, Coleg a Chlwb Ieuenctid yng Ngheredigion. Bydd y bleidlais yn cau yng Ngheredigion ar 7 Hydref a bydd y canlyniadau'n cael eu cyflwyno i Gyngor Ieuenctid Prydain.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, y Cynghorydd Catrin Miles, “Mae’n hynod o bwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i rannu eu barn, yn benodol ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae Senedd Ieuenctid Prydain yn gyfle i Lundain glywed pobl ifanc yn trafod materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Mae’r Ymgyrch Gwneud eich Marc sy’n arwain at ddadl y Senedd Ieuenctid yn gyfle gwerthfawr i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ar draws Ceredigion gael dylanwad ar y materion sy’n cael eu trafod yn Nhŷ’r Cyffredin ym Mis Tachwedd. Rwy’n annog i bob person ifanc i gymryd eu pleidlais.”

 

12/09/2019